Neidio i'r prif gynnwys Neidio i'r bar ochr Neidio i'r traedlen

Mapio (2024/2025)

A picture of a map with a persons hand pointing at a location on the map

Mapio Asedau Cymunedol (2024-2025)

Mae'r prosiect parhaus hwn yn canolbwyntio on deall a dathlu'r hyn sy'n bodoli eisoes ar draws y Tri Chwm, o grwpiau lleol a busnesau i fannau gwyrdd, lleoliadau diwylliannol a chyfleusterau cymunedol. Trwy fapio asedau cymunedol ar hyd llinellau rheilffordd Merthyr, Aberdâr a Threherbert, ein nod yw adeiladu darlun cliriach o'r bobl, y lleoedd a'r gweithgareddau sy'n gwneud pob cymuned yn unigryw, a sut mae'r rheilffordd yn eu cysylltu.

Mae'r gwaith hwn yn helpu i sicrhau bod prosiectau'r dyfodol yn cael eu llywio gan wybodaeth leol ac yn cael eu cynllunio o amgylch cryfderau ac anghenion gwirioneddol cymunedau.

Beth mae'r prosiect hwn yn ei gynnwys

  • Nodi mannau cymunedol, sefydliadau a mentrau lleol
  • Tynnu sylw at atyniadau, digwyddiadau a gweithgareddau ledled y rhanbarth
  • Adeiladu adnodd hygyrch a rennir sy'n gysylltiedig â theithio ar y rheilffordd
  • Cefnogi cymunedau i rannu gwybodaeth am eu hardaloedd lleol

Beth sy'n digwydd nesaf?

Bydd y map yn parhau i dyfu a datblygu dros amser, wedi'i lywio gan gyfraniadau'r gymuned a darganfyddiadau newydd. Wrth iddo ehangu, bydd yn cefnogi twristiaeth, yn meithrin balchder lleol ac yn helpu i lywio prosiectau cymunedol newydd ledled y tri chwm.