Neidio i'r prif gynnwys Neidio i'r traedlen
Community Rail Network Logo

Mae Partneriaeth Rheilffordd Gymunedol Y Tri Chwm yn aelod o Rwydwaith Rheilffyrdd Cymunedol

Rydym yn falch o fod yn aelodau o Rwydwaith Rheilffyrdd Cymunedol (Community Rail Network), mudiad llawr gwlad sy'n tyfu ac sy'n cynnwys 75 o bartneriaethau rheilffordd gymunedol, 1,300 o grwpiau gwirfoddol sy'n gofalu am orsafoedd, a nifer o fentrau eraill dan arweiniad cymunedau ledled Prydain.

Gyda'n gilydd, rydym yn ymgysylltu â chymunedau lleol ac yn eu grymuso i wneud y gorau o'u rheilffyrdd. Mae rheilffyrdd cymunedol yn cefnogi cynhwysiant cymdeithasol, mynediad at gyfleoedd, teithio a thwristiaeth gynaliadwy, iechyd a llesiant, yn ogystal â thwf economaidd lleol.

Rydym yn gweithio mewn partneriaeth â gweithredwyr trenau, y sector trafnidiaeth ehangach, awdurdodau lleol, sefydliadau addysg a mudiadau cymunedol i gyflawni prosiectau dan arweiniad lleol, gwella gwasanaethau ac orsafoedd rheilffordd, a sicrhau bod gan gymunedau lais cryf wrth lunio dyfodol rheilffyrdd a thrafnidiaeth.

I gael gwybod mwy am Rwydwaith Rheilffyrdd Cymunedol, cliciwch yma

Fel aelod o'r Rhwydwaith Rheilffyrdd Cymunedol, rydym yn seilio ein gwaith ar Bedair Colofn Rheilffyrdd Cymunedol.

Pedwar colofn rheilffyrdd cymunedol

Rhoi llais i'r gymuned
Hyrwyddo teithio cynaliadwy, iach a hygyrch
Dod â chymunedau ynghyd a chefnogi amrywiaeth a chynhwysiant
Cefnogi datblygiad cymdeithasol a phersonol / Cefnogi datblygiad cymdeithasol ac economaidd