Neidio i'r prif gynnwys Neidio i'r traedlen

Lleoedd i'w ymweld â hwy

Mountain biking at Bike Park Wales, Merthyr
© Hawlfraint y Goron / © Crown copyright (2025) Cymru

Mae Partneriaeth Rheilffordd Gymunedol y Tri Chwm yn ymestyn o Ben y Cynnau i Gaerdydd, prifddinas Cymru ar lannau Môr Hafren.

Yn ymestyn dros siroedd Merthyr Tudful, Rhondda Cynon Taf a Chaerdydd, mae'r rhanbarth yn cynnig amrywiaeth o gyrchfannau cyffrous i'lerini ymweld â hwy – o oleuadau disglair Caerdydd i hanes cyfoethog y Cymoedd a golygfeydd syfrdanol Parc Cenedlaethol Bannau Brycheiniog.

Cymerwch gam yn ôl mewn amser i ddysgu am hanes mwyngloddio glo drwy ymweld â Pharc Cefn Gwlad Cwm Rhondda, archwilio’r awyr agored gyda thaith ar Reilffordd Mynydd Brycheiniog, beicio Llwybr Taf sy’n 55 milltir o hyd, neu ddim ond mynd am dro ar hyd Llwybr Arfordir Cymru ym Mae Caerdydd. Mae rhywbeth at ddant pawb!

Yn chwilio am ysbrydoliaeth? Ewch i wefannau ein heudurdodau lleol partner a Visit Wales i archwilio lleoedd i'w ymweld a phethau i'w gwneud yn ystod eich taith.