Neidio i'r prif gynnwys Neidio i'r bar ochr Neidio i'r traedlen

Mapio Mannau Diogelwch (2026-2027)

A white round machine on railings that says 'Help Point' and two buttons that say 'Emergency' and 'Information'

Mae nifer o'r orsafoedd yn ein hardal yn cynnwys platfformau heb swyddfeydd tocynnau ac, yn aml, maent wedi'u lleoli mewn mannau cymharol anghysbell. Rydym yn ymgymryd â phrosiect i fapio'r holl orsafoedd a nodi'r mannau diogel agosaf atynt. Gall y rhain fod yn fannau swyddogol neu'n leoliadau anffurfiol megis caffi lleol, llyfrgell neu ganolfan gymunedol.

Ar ôl cwblhau'r gwaith hwn, byddwn yn archwilio'r ffyrdd gorau o rannu'r wybodaeth â'r bobl sydd ei hangen, ar yr adeg y mae ei hangen arnynt. Bydd y prosiect yn helpu i wella hyder wrth ddefnyddio'r rheilffordd, yn enwedig i deithwyr a all deimlo'n fwy agored i niwed neu'n ansicr wrth deithio.