Diolch i gyllid gan Great Western Railway (GWR), rydym wedi comisiynu Wisdom Circles i gynnal pum sesiwn hanner diwrnod o hyd o Orsaf Ganolog Caerdydd, ynghyd â chwrs ymwybyddiaeth ofalgar ar-lein dros bedair wythnos.
Nid yw hi bob amser yn hawdd i bawb gael mynediad at fannau gwyrdd, felly bydd y prosiect hwn yn archwilio ffyrdd o gefnogi ein hiechyd a'n lles meddyliol mewn amgylchedd trefol. Bydd y sesiynau'n cynnwys amser yng Ngorsaf Ganolog Caerdydd a chyfle i ddysgu mwy am GWR, gan gynnwys y cymorth hygyrchedd sydd ar gael i deithwyr. Yna byddwn yn defnyddio ffotograffiaeth fel dull o annog presenoldeb ac ymwybyddiaeth ofalgar, cyn mynd am dro yng nghanol y ddinas gyda chyfle i fyfyrio a rhannu profiadau fel grŵp.
Bydd y lluniau a gynhyrchir yn ystod y prosiect yn cael eu curadu a'u ymddangos ar-lein.
Bydd y cwrs ar-lein yn rhedeg ochr yn ochr â'r sesiynau wyneb yn wyneb. Yn ogystal â chyflwyno egwyddorion sylfaenol ymwybyddiaeth ofalgar a rhoi cyfle i dderbyn adborth, bydd yn rhannu gwybodaeth ychwanegol am GWR a'r adnoddau sydd ar gael ar eu gwefan. Bydd y cwrs a'r teithiau cerdded yn rhad ac am ddim i'w mynychu. Bydd pob diwrnod yn cael ei neilltuo i grwpiau lleol rydym yn gweithio gyda nhw drwy'r Bartneriaeth.

