I ddathlu Blwyddyn Genedlaethol Darllen y DU, rydym yn helpu pobl i ddarganfod mwynhad mewn darllen drwy weithio gyda'n partneriaid, The Book Fairies UK a The Book Fairies South Wales.
Rydym yn gwybod y gall cael gafael ar lyfrau fod yn her i rai pobl ac, yn anffodus, bod lefelau llythrennedd mewn rhannau o'r Cymoedd yn is na chyfartaledd Cymru. Felly, roeddem am wneud rhywbeth i helpu. Rydym yn gadael llyfrau am ddim, y rhan fwyaf ohonynt yn newydd sbon ac yn aml wedi'u darparu gan y Book Fairies, ar drenau ac mewn gorsafoedd ledled ein hardal i wneud llyfrau'n fwy hygyrch ac ychwanegu ychydig o hwyl at y profiad.
Mae'r prosiect yn cynnwys llyfrau i blant ac oedolion. Mae ymchwil diweddar wedi awgrymu bod oedolion bellach yn treulio mwy o amser yn darllen cynnwys ar y cyfryngau cymdeithasol nag yn darllen llyfrau, ac nad oes gan tua un o bob wyth o blant rhwng 5 a 18 oed yn y DU lyfr eu hunain. Drwy'r fenter hon, rydym yn gobeithio annog mwy o bobl i ailddarganfod pleser darllen.
Lansiwyd y prosiect yn ystod Wythnos Rheilffyrdd Cymunedol 2026, pan ddosbarthwyd dros 40 o lyfrau am ddim ar drenau drwy gydol y dydd. Rhannwyd hefyd gyfres o bostiadau ar gyfryngau cymdeithasol gan aelodau'r Bartneriaeth yn ystod yr wythnos ddilynol, yn cynnwys eu hoff lyfrau a'u hargymhellion darllen.
Ein nod yw sefydlu silffoedd llyfrau am ddim mewn nifer o orsafoedd o fewn ardal y Bartneriaeth Rheilffordd Gymunedol, yn ogystal â pharhau i ddosbarthu llyfrau ar drenau drwy gydol y flwyddyn. Rydym hefyd yn gobeithio cydweithio â Phartneriaethau Rheilffordd Gymunedol eraill i ymestyn y prosiect i ardaloedd eraill ac annog hyd yn oed mwy o bobl i fwynhau darllen.

