Er bod teithio ar y trên yn ffordd gymharol ddiogel o deithio, rydym wedi gwrando ar ein cymunedau sydd wedi dweud wrthym nad ydynt bob amser yn teimlo'n hyderus wrth ddefnyddio trafnidiaeth gyhoeddus, yn enwedig menywod.
Eleni, rydym yn cynnal ymchwil i ddeall pam y gall menywod deimlo'n anniogel ar y rheilffordd a sut y gallwn helpu i gynyddu eu hyder wrth deithio. Mae hyn yn cynnwys y trenau a'r gorsafoedd eu hunain, ond hefyd yr amgylchedd ehangach y tu allan i'r gorsafoedd, megis y llwybrau sy'n arwain atynt ac oddi wrthynt, cyfeirbyst, goleuadau a meysydd parcio.
Rydym yn gweithio gyda nifer o bartneriaid ar draws y tair sir i gefnogi'r gwaith hwn.
Fel rhan o'r prosiect, rydym yn cynnig cyfle i fynychu diwrnod o hyfforddiant Ymyrryd yn Weithredol fel Tyst (Active Bystander Training) am ddim, wedi'i hwyluso gan Kindling Interventions a'i ariannu gan Lywodraeth Cymru. Hyd yma, mae 15 o bobl wedi cymryd rhan yn yr hyfforddiant.
Rydym hefyd wedi mynychu cyfarfod o Gyngor Ieuenctid Merthyr a gynhaliwyd gan Safer Merthyr Tydfil, lle buom yn gwrando ar brofiadau byw'r rhai a oedd yn bresennol. Byddwn yn parhau i ymgysylltu â grwpiau eraill wrth i'r prosiect ddatblygu.
Bydd canfyddiadau'r ymchwil yn cael eu defnyddio i lywio'r camau nesaf, gyda'r nod o helpu i gynyddu hyder pobl wrth ddefnyddio'r rheilffordd a gwella eu profiad o deithio.

