Neidio i'r prif gynnwys Neidio i'r traedlen

Partneriaeth Rheilffordd Gymunedol Y Tri Chwm

Wedi'i sefydlu yn 2025 ac yn cael ei lletya gan Weithredu Gwirfoddol Merthyr Tudful, mae'r Bartneriaeth yn rhan o rwydwaith cenedlaethol y Rheilffyrdd Cymunedol ac yn cael ei chefnogi gan Drafnidiaeth Cymru.

Rydym yn gweithio ar y cyd ag awdurokdau lleol, grwpiau cymunedol, elusennau a'r diwydiant rheilffyrdd i gyflwyno prosiectau sy'n adlewyrchu blaenoriaethau lleol ac yn creu gwerth a rennir.

Ein rôl yw cefnogi cyfranogiad cymunedol, hyrwyddo teithio cynaliadwy a hygyrch, dathlu treftadaeth a diwylliant lleol, a helpu i ddatgloi manteision cymdeithasol, economaidd ac amgylcheddol ar hyd ein llwybrau rheilffordd.

Trwy brosiectau a phartneriaethau dan arweiniad lleol, ein nod yw sicrhau bod y rheilffordd yn parhau i gysylltu pobl, lleoedd a chyfleoedd ledled rhanbarth y tri chwm.

Mae ein haelodau partner presennol yn cynnwys: Ymddiriedolaeth Adfywio meysydd Glo (Coalfields Regeneration Trust); Rhwydwaith Rheilffyrdd Cymunedol (Community Rail Network); BID Merthyr; Cyngor Bwrdeistref Sirol Merthyr Tudful; Ramblers Cymoedd Merthyr; New Horizons; Cyngor Bwrdeistref Sirol Rhondda Cynon Taf; Trafnidiaeth Cymru; Ymweld â Merthyr (Visit Merthyr); Gweith Dwirfoddol Merthyr Tudful (Voluntary Action Merthyr Tydfil); Mirus Wales; Ymddiriedolaeth Innovate (Innovate Trust); Carwn Ferthyr (We Love Merthyr); Cymdeithas Tai Merthyr Tudful (Merthyr Tydfil Housing Association); Sefydliad Cyfarthfa (Cyfarthfa Foundation).

Members of the Partnership in Pontypridd
Aelodau o'r Bartneriaeth yn cyfarfod ym Mhontypridd