Mae Partneriaeth Rheilffyrdd Cymunedol y Tri Chwm yn gweithio gyda chymunedau, partneriaid a sefydliadau ar draws Merthyr Tudful, Rhondda Cynon Taf a Chaerdydd i ddathlu, hyrwyddo a chryfhau ein llinellau rheilffordd lleol. Trwy annog cymunedau i gymryd rhan a theithio'n gynaliadwy, rydym yn helpu i sicrhau bod y rheilffordd yn parhau i ddarparu buddion cymdeithasol, economaidd ac amgylcheddol i'r mannau y mae'n eu gwasanaethu.