Mae Partneriaeth Rheilffordd Gymunedol Y Tri Chwm yn aelod o Rwydwaith Rheilffyrdd Cymunedol
Rydym yn falch o fod yn aelodau o Rwydwaith Rheilffyrdd Cymunedol (Community Rail Network), mudiad llawr gwlad sy'n tyfu ac sy'n cynnwys 75 o bartneriaethau rheilffordd gymunedol, 1,300 o grwpiau gwirfoddol sy'n gofalu am orsafoedd, a nifer o fentrau eraill dan arweiniad cymunedau ledled Prydain.
Gyda'n gilydd, rydym yn ymgysylltu â chymunedau lleol ac yn eu grymuso i wneud y gorau o'u rheilffyrdd. Mae rheilffyrdd cymunedol yn cefnogi cynhwysiant cymdeithasol, mynediad at gyfleoedd, teithio a thwristiaeth gynaliadwy, iechyd a llesiant, yn ogystal â thwf economaidd lleol.
Rydym yn gweithio mewn partneriaeth â gweithredwyr trenau, y sector trafnidiaeth ehangach, awdurdodau lleol, sefydliadau addysg a mudiadau cymunedol i gyflawni prosiectau dan arweiniad lleol, gwella gwasanaethau ac orsafoedd rheilffordd, a sicrhau bod gan gymunedau lais cryf wrth lunio dyfodol rheilffyrdd a thrafnidiaeth.
I gael gwybod mwy am Rwydwaith Rheilffyrdd Cymunedol, cliciwch yma
