{"id":5835,"date":"2026-07-10T10:58:51","date_gmt":"2026-07-10T10:58:51","guid":{"rendered":"https:\/\/3valleyscrp.wales\/?p=5835"},"modified":"2026-09-09T15:01:55","modified_gmt":"2026-09-09T15:01:55","slug":"womens-safety-on-the-rails-2026-2027","status":"publish","type":"post","link":"https:\/\/3valleyscrp.wales\/cy\/womens-safety-on-the-rails-2026-2027\/","title":{"rendered":"Diogelwch i Ferched ar y Rheilffordd (2026-2027)"},"content":{"rendered":"<p>Er bod teithio ar y tr\u00ean yn ffordd gymharol ddiogel o deithio, rydym wedi gwrando ar ein cymunedau sydd wedi dweud wrthym nad ydynt bob amser yn teimlo'n hyderus wrth ddefnyddio trafnidiaeth gyhoeddus, yn enwedig menywod.<\/p>\n<p>Eleni, rydym yn cynnal ymchwil i ddeall pam y gall menywod deimlo'n anniogel ar y rheilffordd a sut y gallwn helpu i gynyddu eu hyder wrth deithio. Mae hyn yn cynnwys y trenau a'r gorsafoedd eu hunain, ond hefyd yr amgylchedd ehangach y tu allan i'r gorsafoedd, megis y llwybrau sy'n arwain atynt ac oddi wrthynt, cyfeirbyst, goleuadau a meysydd parcio.<\/p>\n<p>Rydym yn gweithio gyda nifer o bartneriaid ar draws y tair sir i gefnogi'r gwaith hwn.<\/p>\n<p>Fel rhan o'r prosiect, rydym yn cynnig cyfle i fynychu diwrnod o hyfforddiant Ymyrryd yn Weithredol fel Tyst (Active Bystander Training) am ddim, wedi'i hwyluso gan Kindling Interventions a'i ariannu gan Lywodraeth Cymru. Hyd yma, mae 15 o bobl wedi cymryd rhan yn yr hyfforddiant.<\/p>\n<p>Rydym hefyd wedi mynychu cyfarfod o Gyngor Ieuenctid Merthyr a gynhaliwyd gan Safer Merthyr Tydfil, lle buom yn gwrando ar brofiadau byw'r rhai a oedd yn bresennol. Byddwn yn parhau i ymgysylltu \u00e2 grwpiau eraill wrth i'r prosiect ddatblygu.<\/p>\n<p>Bydd canfyddiadau'r ymchwil yn cael eu defnyddio i lywio'r camau nesaf, gyda'r nod o helpu i gynyddu hyder pobl wrth ddefnyddio'r rheilffordd a gwella eu profiad o deithio.<\/p>","protected":false},"excerpt":{"rendered":"<p>Although trains are a relatively safe way to travel, we have listened to&hellip;<\/p>","protected":false},"author":5,"featured_media":6085,"comment_status":"closed","ping_status":"open","sticky":false,"template":"","format":"standard","meta":{"_themeisle_gutenberg_block_has_review":false,"footnotes":""},"categories":[74],"tags":[],"class_list":["post-5835","post","type-post","status-publish","format-standard","has-post-thumbnail","hentry","category-projects"],"_links":{"self":[{"href":"https:\/\/3valleyscrp.wales\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/posts\/5835","targetHints":{"allow":["GET"]}}],"collection":[{"href":"https:\/\/3valleyscrp.wales\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/posts"}],"about":[{"href":"https:\/\/3valleyscrp.wales\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/types\/post"}],"author":[{"embeddable":true,"href":"https:\/\/3valleyscrp.wales\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/users\/5"}],"replies":[{"embeddable":true,"href":"https:\/\/3valleyscrp.wales\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/comments?post=5835"}],"version-history":[{"count":1,"href":"https:\/\/3valleyscrp.wales\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/posts\/5835\/revisions"}],"predecessor-version":[{"id":5836,"href":"https:\/\/3valleyscrp.wales\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/posts\/5835\/revisions\/5836"}],"wp:featuredmedia":[{"embeddable":true,"href":"https:\/\/3valleyscrp.wales\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/media\/6085"}],"wp:attachment":[{"href":"https:\/\/3valleyscrp.wales\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/media?parent=5835"}],"wp:term":[{"taxonomy":"category","embeddable":true,"href":"https:\/\/3valleyscrp.wales\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/categories?post=5835"},{"taxonomy":"post_tag","embeddable":true,"href":"https:\/\/3valleyscrp.wales\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/tags?post=5835"}],"curies":[{"name":"wp","href":"https:\/\/api.w.org\/{rel}","templated":true}]}}